CAREERS CHOICE DEWIS GYRFA (CCDG) / Gyrfa Cymru
Recriwtio Aelodau Bwrdd
Mae Gyrfa Cymru yn is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Lywodraeth Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad gyrfaoedd dwyieithog, cenedlaethol, proffesiynol a diduedd i bobl o bob oed. Mae Gyrfa Cymru yn cefnogi cwsmeriaid i ddod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu dewis un yrfa, ond yn hytrach cyfres o drawsnewidiadau gyrfa gydol oes. Trwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, gall cwsmeriaid wneud y trawsnewidiadau hyn yn fwy llyfn, mwynhau lefel uwch o foddhad gyrfa a chwarae rhan fwy gweithredol yn yr economi.
Mae Gyrfa Cymru yn chwilio am dri aelod bwrdd newydd (Cymraeg yn ddymunol) gydag ystod o arbenigedd, ar draws ystod eang o sectorau economaidd, proffesiynau a grwpiau cymdeithasol.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn un o’n prif flaenoriaethau ac rydym yn croesawu unigrywiaeth. Rydym yn annog ymgeiswyr o gefndiroedd a phrofiadau amrywiol yn gryf.
Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am unigolion brwdfrydig a llawn cymhelliant a all gyfrannu at y gwaith parhaus o gryfhau a datblygu CCDG. Bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus fod â diddordeb gwirioneddol mewn gyrfaoedd.
Bydd Aelodau’r Bwrdd yn:
- Cynorthwyo’r Cadeirydd i ddarparu arweinyddiaeth gref, effeithiol a gweladwy i CCDG.
- Chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni yn erbyn ei gylch gwaith blynyddol a bennir gan Weinidogion Cymru.
- Bod yn atebol am berfformiad y CCDG.
- Datblygu perthnasoedd allweddol gyda phartneriaid.
Digwyddiadau agored
Bydd GatenbySanderson yn cynnal digwyddiadau agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl, lle gallwch gael rhagor o fanylion, gofyn cwestiynau, a chlywed gan Gadeirydd y Bwrdd.
Dyddiad ac amser:
- 12:00 – 13:00, 20 Rhagfyr
- 20:00 – 21:00, 3 Ionawr
- 12:00 – 13:00, 9 Ionawr
Nodwch ar eich e-bost cofrestru drwy’r ddolen yma os hoffech chi brofi’r digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.