Gwrthdaro Buddiannau
Pe byddai Bwrdd CCDG yn cael ei ddiddymu, ei ailstrwythuro neu ei ddirwyn i ben cyn diwedd cyfnod arferol eich penodiad, bydd eich penodiad yn cael ei derfynu ar ddyddiad y diddymiad neu ar ddyddiad arall a amlinellir mewn unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol.
Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd gofyn ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai fod, neu y gellid dehongli eu bod, yn gwrthdaro â rôl a chyfrifoldebau Aelod o Fwrdd CCDG, gan gynnwys buddiannau busnes neu swyddi o awdurdod y tu allan i’r rôl o fewn Bwrdd CCDG.
Bydd unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei drafod yn y cyfweliad. Os cewch eich penodi, bydd gofyn hefyd ichi ddatgan y buddiannau hynny ar gofrestr sydd ar gael i’w gweld gan y cyhoedd.
Diwydrwydd Dyladwy
Bydd Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn cynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar bob ymgeisydd y dewisir rhoi cyfweliad iddo. Bydd y gwiriadau hynny’n cynnwys, ymhlith pethau eraill, chwiliadau ar y cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd. O ganlyniad, gallem ofyn cwestiynau ichi yn ystod y cyfweliad am ffrwyth yr archwiliadau diwydrwydd dyladwy hyn.
Safonau mewn bywyd cyhoeddus
Bydd disgwyl ichi ddangos ymddygiad corfforaethol a phersonol o safon uchel. Bydd yn ofynnol i’r holl ymgeiswyr llwyddiannus gydymffurfio â Chod Ymddygiad Aelodau Byrddau Cyrff Cyhoeddus. Mae’r ddogfen honno i’w gweld yma:
https://www.gov.uk/government/publications/code-of-conduct-for-board-members-of-public-bodies
Ni chaiff gweision sifil gamddefnyddio eu safle swyddogol na gwybodaeth y maent yn ei chael drwy eu dyletswyddau swyddogol er mwyn eu buddiannau preifat neu fuddiannau preifat pobl eraill. Gall gwrthdaro buddiannau godi o fuddiannau ariannol, ac yn fwy eang o ymwneud swyddogol ag unigolion sy’n rhannu buddiannau preifat gwas sifil (e.e. seiri rhyddion, aelodaeth o gymdeithasau, clybiau, sefydliadau a theulu), neu benderfyniadau ynglŷn â’r unigolion hynny. Pan fo gwrthdaro buddiannau yn codi, rhaid i weision sifil ddatgan eu buddiant i uwch-reolwyr, er mwyn iddynt hwy benderfynu ar y ffordd orau o fwrw ymlaen.
Caiff y penodiad ei derfynu ar unwaith os byddwch yn cael eich dyfarnu’n euog o drosedd, a/neu os bydd Gweinidogion Cymru o’r farn bod eich ymddygiad yn golygu nad ydych bellach yn berson addas ar gyfer swydd Aelod o Fwrdd CCDG.
Gallech golli eich swydd fel aelod o’r Bwrdd cyn diwedd tymor eich penodiad os cewch orchymyn methdalu.
Dylai ymgeiswyr nodi hefyd y bydd bod yn aelod o Fwrdd CCDG yn golygu na fyddant yn gymwys i fod yn Aelod o Senedd Cymru o dan Orchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020.
Gorchymyn Senedd Cymru (Anghymhwyso) 2020 (legislation.gov.uk).
Sylwer y bydd gofyn i’r sawl a benodir fodloni gofynion gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn i’r penodiad gael ei gadarnhau.