Rôl a chyfrifoldebau
- arwain y Cwmni yn effeithiol, gan ddiffinio a datblygu cyfeiriad strategol a phennu amcanion heriol;
- hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Sicrhau y cydymffurfir â rheolau caffael perthnasol, mewn perthynas â chael cyllid gan Lywodraeth Cymru (o ran bod CCDG yn is-gwmni y mae Llywodraeth Cymru yn berchen arno, ac yn gwmni Teckal) a gwariant CCDG fel awdurdod contractio sy’n ddarostyngedig i’r rheolau caffael;
- sicrhau y caiff gweithgareddau’r Cwmni eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol ac mewn ffordd sy’n gyson â’r “pum ffordd o weithio” (fel y’u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015);
- monitro perfformiad i sicrhau bod y Cwmni yn bodloni ei amcanion, ei nodau a’i dargedau perfformiad;
- hyrwyddo egwyddorion bywyd cyhoeddus Nolan, sef: anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd ac arweiniad.
Wrth gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau, mae’n rhaid i Aelodau’r Bwrdd wneud y canlynol:
- cydymffurfio â Chod Ymddygiad y Cwmni ar gyfer Aelodau’r Bwrdd bob amser a’r holl reolau perthnasol sy’n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus a gwrthdaro buddiannau;
- peidio â chamddefnyddio gwybodaeth a gafwyd yn ystod eu gwasanaeth cyhoeddus er mwyn sicrhau mantais bersonol na gwleidyddol, na cheisio defnyddio’r cyfle a gynigir gan wasanaeth cyhoeddus i hyrwyddo eu buddiannau personol na buddiannau personau na sefydliadau y mae ganddynt gydberthynas â nhw;
- cydymffurfio â rheolau ar dderbyn rhoddion a lletygarwch, a buddiannau busnes allanol;
- datgan pob achos posibl a gwirioneddol o wrthdaro buddiannau i’r Cadeirydd a diweddaru’r wybodaeth hon o leiaf unwaith y flwyddyn neu pan fydd amgylchiadau’n newid;
- gweithredu’n ddidwyll er budd y Cwmni bob amser.
Bydd disgwyl i Aelodau’r Bwrdd wneud y canlynol:
- mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi’n drylwyr ar gyfer y cyfarfodydd hynny;
- bod yn barod i wasanaethu ar un o is-bwyllgorau CCDG;
– Pwyllgor Perfformiad ac Effaith
– Pwyllgor Materion Pobl
– Pwyllgor Cyllid, Archwilio a Risg - cynrychioli CCDG mewn digwyddiadau cyhoeddus
- hyrwyddo proffil CCDG.
Manyleb y Person
Mae CCDG am benodi tri aelod newydd o’r bwrdd (Cymraeg yn ddymunol) sydd ag amrywiaeth o arbenigedd, ar draws ystod eang o sectorau economaidd, proffesiynau a grwpiau cymdeithasol. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan unigolion â sgiliau yn un o’r meysydd canlynol:
- Ysgolion e.e. pennaeth neu uwch arweinydd addysg
- Strategaeth neu weithrediadau Adnoddau Dynol
- Cyfathrebu, marchnata a materion cyhoeddus
I gael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau personol a’r wybodaeth angenrheidiol i fodloni’r meini prawf hanfodol isod ac ychwanegu gwerth at waith Bwrdd CCDG.
Nid yw profiad blaenorol mewn rôl anweithredol yn hanfodol. Rhaid i ymgeiswyr heb brofiad blaenorol o fod yn aelod Bwrdd allu dangos sut maent yn bodloni’r meini prawf hanfodol.
Digwyddiadau agored
Bydd GatenbySanderson yn cynnal digwyddiadau agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl, lle gallwch gael rhagor o fanylion, gofyn cwestiynau, a chlywed gan Gadeirydd y Bwrdd.
Dyddiad ac amser:
- 12:00 – 13:00, 20 Rhagfyr
- 20:00 – 21:00, 3 Ionawr
- 12:00 – 13:00, 9 Ionawr
Nodwch ar eich e-bost cofrestru drwy’r ddolen yma os hoffech chi brofi’r digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.