Lleoliad
Cynhelir cyfarfodydd bwrdd CCDG bob chwarter, 2 yn rhithiol a 2 wyneb yn wyneb (ledled Cymru). Cynhelir cyfarfodydd yr is-bwyllgorau 4 gwaith y flwyddyn. Y disgwyl yw y bydd aelodau’r bwrdd yn cyflawni eu dyletswyddau ar sail Cymru gyfan. Fel addasiad rhesymol, rhoddir ystyriaeth i geisiadau gan aelodau sy’n dymuno cyfrannu o bell.
Ymrwymiad Amser
Disgwylir ichi ymrwymo o leiaf wyth diwrnod y flwyddyn, a dau ddiwrnod datblygu ychwanegol.
Hyd y penodiad
Bydd tymor eich penodiad yn para am 3 blynedd. Gall y penodiad gael ei derfynu’n gynnar gan y naill barti neu’r llall drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig.
Gallwch wasanaethu am hyd at ddau dymor tair blynedd yn olynol, yn amodol ar gymeradwyaeth gweinidogol.
Tâl cydnabyddiaeth
Nid yw aelodau bwrdd CCDG yn weithwyr cyflogedig i’r cwmni na Llywodraeth Cymru ac maent yn cyflawni eu dyletswyddau fel gweithwyr gwirfoddol, di-dâl ar hyn o bryd. Caiff treuliau teithio a chynhaliaeth sy’n codi yn sgil mynd i gyfarfodydd CCDG neu ar ymweliadau ar ran CCDG eu had-dalu gan CCDG ei hun yn unol â’r gyfradd a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn perthynas ag aelodau Pwyllgorau’r Llywodraeth. Dylid hawlio ad-daliadau drwy Ysgrifenyddiaeth CCDG. Gellid hefyd talu costau gofal plant ac unigolion dibynnol eraill os cyflwynir derbynebau, yng nghyd-destun costau ychwanegol eraill a fydd yn cael eu hysgwyddo wrth wneud gwaith i CCDG. Mae Cadeiryddion y tri phwyllgor hefyd yn cael taliad dyddiol.