Careers Wales logo

Gwneud cais

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru:

Y tro cyntaf y byddwch yn gwneud cais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen i gofrestru ar system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y bydd angen ichi gofrestru. O wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu gwneud drwy’ch cyfrif cofrestredig.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen ichi lanlwytho datganiad personol a CV i’r adran ‘Rhesymau dros wneud cais’ ar y ffurflen gais ar-lein.

Datganiad Personol

Y datganiad personol yw’ch cyfle i ddangos sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf ym manyleb y person a rhannu eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau personol.

Dylai eich datganiad personol gynnwys enghraifft fanwl yn erbyn pob un o’r meini prawf. Efallai y byddwch yn dewis strwythuro eich enghreifftiau mewn ffordd benodol i ddangos yr hyn a wnaethoch yn bersonol;

  • Sefyllfa – gosod cyd-destun cryno ar gyfer eich esiampl/sefyllfa /her
  • Tasg – beth oedd yn ofynnol gennych chi
  • Gweithgaredd – pa gamau y gwnaethoch eu cymryd
  • Canlyniad – beth oedd effaith eich gweithredoedd

CV

Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion bras eich swydd bresennol neu’ch swydd ddiweddaraf, a’ch dyddiadau yn y rôl hon. Nodwch unrhyw benodiadau Gweinidogol blaenorol neu bresennol. 

Geirda

Rhowch enwau dau ganolwr (cyflogwr a phersonol). Byddwn yn cysylltu â nhw os byddwch yn llwyddiannus.

Amserlen ddangosol

Dyddiad cau: 17 Ionawr 2024
Llunio rhestr fer:                           Wythnos yn cychwyn 29 Ionawr 2024
Cyfweliadau: Wythnos yn cychwyn 11 Mawrth 2024

Datganiad am Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylai aelodau byrddau cyrff cyhoeddus adlewyrchu cymdeithas Cymru – pobl o bob cefndir – er mwyn helpu’r byrddau i ddeall anghenion pobl ac i wneud penderfyniadau gwell. Dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn annog amrywiaeth eang o unigolion i ymgeisio am benodiadau i gyrff cyhoeddus. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bob grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys menywod, pobl o dan 30 oed, pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol.

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy’n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gallu anablu pobl sydd ag amhariad neu gyflwr iechyd, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau er mwyn i bob aelod o staff fedru perfformio ar ei orau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio’r diffiniad meddygol o anabledd (“amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd”).

Rydym yn gwarantu cyfweliad i unrhyw un sy’n anabl os yw ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn gyffredinol yn bodloni’r lefel cymhwysedd ar gyfer y rôl a’ch bod yn meddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiad a ddiffinnir yn rhai hanfodol.

Rydym wedi ymrwymo i gyflogi ac i ddatblygu gyrfaoedd pobl anabl. Os hoffech warant o gyfweliad, cysylltwch ag Emma Hughes.

Os oes gennych amhariad neu gyflwr iechyd, neu os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o’r broses recriwtio, cysylltwch ag Emma Hughes fel uchod cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o’r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Digwyddiadau agored

Bydd GatenbySanderson yn cynnal digwyddiadau agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl, lle gallwch gael rhagor o fanylion, gofyn cwestiynau, a chlywed gan Gadeirydd y Bwrdd.

Dyddiad ac amser:

  • 12:00 – 13:00, 20 Rhagfyr
  • 20:00 – 21:00, 3 Ionawr
  • 12:00 – 13:00, 9 Ionawr

Nodwch ar eich e-bost cofrestru drwy’r ddolen yma os hoffech chi brofi’r digwyddiad drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg.

Manylion Cyswllt:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â: 

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd CCDG a rôl ei Aelodau, cysylltwch â: Sam Evans, Pennaeth Polisi Gyrfaoedd/Emma Hughes, Rheolwr Polisi Gyrfaoedd a Chontractau:

E-bost: sam.evans@llyw.cymru / Emma.Hughes2@llyw.cymru.

Os hoffech ragor o gymorth i ymgeisio am y swydd, cysylltwch â ‌penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru  

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus