Bydd gofyn i’r ymgeiswyr sy’n cael eu rhoi ar restr fer ymhelaethu ar sut y maent yn bodloni’r meini prawf isod gan ddefnyddio enghreifftiau personol a dangos tystiolaeth.
- Profiad o adeiladu a chynnal perthynas o ymddiriedaeth gydag amrywiaeth o randdeiliaid.
- Y gallu i gydbwyso her adeiladol gyda chefnogaeth wrth weithio’n llwyddiannus fel rhan o’r Bwrdd.
- Sgiliau strategol a gwerthfawrogiad o’r gwahaniaeth rhwng strategaeth a gwaith gweithredol.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â dysgu a gwaith yng Nghymru.
- Ymrwymiad i feithrin diwylliant o lywodraethu proffesiynol a meddylgar, sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
- Ymrwymiad at Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan.
Meini Prawf Dymunol
- Sgiliau Cymraeg, Lefel 1