Careers Wales logo

Rôl a chyfrifoldebau Bwrdd CCDG

Cefndir

Mae Careers Choice Dewis Gyrfa (CCDG) yn gweithredu o dan yr enw Gyrfa Cymru, ac mae’n is-gwmni sy’n eiddo’n llwyr i Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnig cyngor ac arweiniad dwyieithog, proffesiynol a diduedd am yrfaoedd i bobl o bob oed yng Nghymru.

Mae Gyrfa Cymru’n cefnogi cwsmeriaid i fod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu dewis un yrfa yn unig, ond yn hytrach ddilyn llwybr gyrfa o wahanol swyddi ar hyd eich oes. Drwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, gall cwsmeriaid drosglwyddo o un swydd i un arall yn rhwyddach, mwynhau lefel uwch o foddhad o ran gyrfa, a chwarae rhan fwy gweithgar yn yr economi.

Ym mis Ebrill 2021, lansiodd Gyrfa Cymru eu gweledigaeth pum mlynedd, ‘Dyfodol Disglair’. Nod Dyfodol Disglair yw creu dyfodol mwy disglair i bob person ifanc ac oedolyn yng Nghymru.

Mae’r bwrdd yn gyfrifol am y canlynol:

  • pennu a datblygu nodau ac amcanion strategol y Cwmni yn unol â’i ddiben cyffredinol, y nodau Llesiant ac o fewn y fframwaith polisi ac adnoddau a bennir gan y Gweinidog;
  • sicrhau bod strategaethau yn cael eu datblygu ar gyfer cyflawni amcanion y Cwmni ar y cyd â Gweinidogion Cymru, a rhanddeiliaid perthnasol eraill, er enghraifft cyflogeion, cwsmeriaid a darparwyr cyllid;
  • sicrhau bod y Gweinidog a’r tîm partneriaeth yn cael gwybodaeth lawn am unrhyw newidiadau sy’n debygol o effeithio ar gyfeiriad strategol y Cwmni neu ar b’un a ellir cyflawni ei dargedau ac am gamau sydd angen eu cymryd i ddelio â newidiadau o’r fath;
  • sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol sy’n gysylltiedig â defnyddio arian cyhoeddus;
  • sicrhau bod y Cwmni yn gweithredu o fewn terfynau ei awdurdod ac unrhyw awdurdod dirprwyedig y cytunwyd arno â’r tîm partneriaeth, ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy’n ymwneud â defnyddio arian cyhoeddus;
  • wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau bod y Cwmni yn ystyried canllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru;
  • sicrhau ei fod yn cael ac yn adolygu’n rheolaidd wybodaeth ariannol am y ffordd y mae’r Cwmni yn cael ei reoli;
  • sicrhau bod y Gweinidog yn cael ei hysbysu mewn modd amserol am unrhyw bryderon am weithgareddau’r Cwmni, gan gynnwys gweithgareddau a allai effeithio ar faint o adnoddau y bydd eu hangen yn y dyfodol, ac unrhyw newidiadau i bolisïau neu arferion y gallai fod iddynt oblygiadau ariannol eang;
  • cymryd camau unioni priodol er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon neu newidiadau y mae iddynt oblygiadau ariannol eang, a rhoi sicrwydd cadarnhaol i’r Gweinidog drwy’r tîm partneriaeth am y pryderon neu’r newidiadau;
  • dangos safonau llywodraethu corfforaethol uchel bob amser, gan gynnwys drwy ddefnyddio’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg er mwyn helpu’r bwrdd i fynd i’r afael â risgiau ariannol allweddol a risgiau eraill;
  • penodi uwch-swyddogion gweithredol ac anweithredol i’r bwrdd, gan gynnwys y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol;
  • sicrhau bod y Cwmni yn ystyried cyfle cyfartal wrth gymeradwyo polisïau a gwneud penderfyniadau;
  • sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd ynglŷn â rheoli risg, gan gynnwys diogelwch gwybodaeth, llywodraethu, y gwasanaeth archwilio mewnol, y gwasanaeth archwilio allanol a rheolaeth fewnol yn unol â gofynion statudol a rheoleiddiol cymwys a, lle y bo’n berthnasol, Godau Ymarfer neu ganllawiau eraill sy’n berthnasol i’r sector.

Rhaid i’r Bwrdd hefyd weithredu mewn ffordd agored a thryloyw.